10. 9. Statement: Employability Support in Wales

Part of the debate – in the Senedd at 4:44 pm on 5 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:44, 5 July 2016

(Translated)

Thank you very much, acting Deputy Presiding Officer.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy’n croesawu'n fras y cyfeiriad teithio yr ydych yn ei amlinellu yma. Byddwn yn dweud, wrth gwrs, er eich bod yn dweud bod diweithdra yng Nghymru wedi gostwng—ac rydych yn creu darlun arbennig yn eich paragraffau agoriadol—rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, bod llawer o'r swyddi newydd sydd wedi eu creu yn rhai rhan-amser, yn ail neu'n drydydd swyddi, yn gontractau dim oriau ac ati, a bod diweithdra hirdymor, wrth gwrs, yng Nghymru, yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, sef 32 y cant o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 29 y cant. Felly, mae angen inni fod yn ofalus, rwy’n credu, o ran y darlun yr ydym yn ei greu, ein bod yn dweud y stori gyfan.

Nawr, nid yw polisi cyflogaeth, wrth gwrs, wedi’i ddatganoli ac rydych yn dweud wrthym yn eich datganiad na ddylai cyfraniad Llywodraeth Cymru i berfformiad anghymesur o gryf Cymru gael ei ddiystyru. Wel, byddwn yn dweud, wyddoch chi, rhowch y pwerau i ni a gallem wneud yn well fyth. A byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n cytuno â mi yn hynny o beth, Weinidog, ac efallai pa sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â chael mwy o gymhwysedd yn y maes hwn fel y gallwn wneud gwaith gwell na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd?

Wrth ddwyn ynghyd Twf Swyddi Cymru a'r rhaglenni eraill yr ydych yn sôn amdanynt mewn un rhaglen, tybed ai'r bwriad yw creu un brand gyda nifer o wahanol gynigion oddi mewn iddo neu nifer o fathau o gynlluniau sy'n gweithredu o fewn y rhaglen honno, neu ai'r bwriad nawr yw symud at un cynnig sydd â'r hyblygrwydd i ddiwallu’r ystod eang o anghenion sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Mae'r matrics a ddarparwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar o’r rhaglenni a gymeradwywyd ar gyfer y gwahanol lwybrau at gyflogadwyedd, rwy’n credu, yn adrodd ei stori ei hun. Bu pryderon am gymhlethdod a dyblygu hefyd, wrth gwrs, rhwng rhaglenni Llywodraeth Cymru a rhaglenni’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rwyf yn gofyn, efallai, i chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydych am sicrhau bod y sefyllfa honno'n cael ei gwella. Ond, yr hyn yr wyf yn ei ofyn yw: a yw datganiad heddiw yn gyfaddefiad, mewn gwirionedd, bod y pryderon hynny yn iawn? Rwy’n credu i chi ddweud bod cyfeiriad at ddarnio gwasanaethau. Mae llawer o bobl wedi bod o’r farn eu bod yn eithaf gorniferus, yn eithaf cymhleth i’w defnyddio a bod y symleiddio hwn yn gydnabyddiaeth bod hynny'n gywir. A yw efallai’n awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi lledaenu ei rhaglenni ychydig yn rhy eang yn y gorffennol, o bosibl, hefyd, o ran darparu adnoddau? Mae hwn yn ffactor pwysig yma, wrth gwrs, oherwydd hoffwn eich clywed yn cadarnhau wrthym y bydd y cyllid cyfan—cyfanswm y cyllid yn cyfateb i swm y rhannau o'r cynlluniau presennol. Neu, a ydych chi'n disgwyl, mewn gwirionedd, y bydd rhyw fath o arbedion ariannol trwy ddod â rhai o'r rhaglenni hyn at ei gilydd?

Rydych yn dweud wrthym y bydd y rhaglen newydd sydd wedi ei chynnig yn cael ei llywio gan dystiolaeth ac ymchwil diweddar, gan werthusiadau sydd wedi'u cynnal, ac y byddwch yn cynnal cynlluniau arbrofol a phrofion ar wahanol ddulliau. Nid wyf yn gweld y gair 'ymgynghori'. Byddwn yn tybio ac yn disgwyl mai eich bwriad yw ymgynghori â rhanddeiliaid a chyflogwyr ac eraill.

Rydych yn gobeithio gweld y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2018. Wel, mae angen iddi gael ei chynllunio, mae angen iddi gael ei threialu ac mae angen cynnal profion arni. Rwy’n tybio y bydd proses dendro ar gyfer rhyw fath o gorff darparu, a bydd angen rhywfaint o amser paratoi arno, byddwn yn tybio, er mwyn gallu dechrau gweithredu erbyn mis Ebrill 2018. Felly, efallai y gallech ddweud ychydig wrthym am y broses yr ydych yn gobeithio ymgymryd â hi i gyrraedd y dyddiad dechrau hwnnw ym mis Ebrill 2018, yn enwedig, wrth gwrs, o’i gosod yn erbyn y cefndir o adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yna effaith enfawr ar y sector hwn yn arbennig—ac yn ariannol yn enwedig, byddwn yn dychmygu—o ystyried ei ddibyniaeth ar gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y gorffennol. Mewn gwirionedd rwy’n cwestiynu yn y fan yma a ydych chi’n dechrau ar y newid hwn ar y rhagdybiaeth y bydd y cyllid sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan yr UE yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Fel arall, byddai rhywun yn cwestiynu sut y gallwch ddatblygu a dylunio eich prif raglen cyflogadwyedd newydd i Gymru heb, i fod yn blwmp ac yn blaen, syniad o ba lefel o adnoddau sy’n mynd i fod ar gael i chi.