6. 5. Statement: Tax Devolution and the Fiscal Framework

Part of the debate – in the Senedd at 3:09 pm on 5 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:09, 5 July 2016

(Translated)

I thank the Member for those comments, and I thank him for informing me that some things are very difficult to do here, but not quite like doing it in a state of war.

Cyfres o gwestiynau pwysig iawn gan Adam Price, a’n man cychwyn ni yw'r un lle y dechreuodd yntau hefyd—sef bod atebolrwydd democrataidd yn ymwneud yn gryf â bod sefydliadau sy'n gwario arian yn gyfrifol am godi arian yn ogystal. Fodd bynnag, mae cael y gyfres gywir o gytundebau i Gymru yn gwbl hanfodol. Fel arall, bydd yr egwyddor sylfaenol honno o atebolrwydd democrataidd wedi’i erydu'n angheuol os cawn ni ein dal yn gyfrifol am ganlyniadau penderfyniadau nad ydynt yn cael eu gwneud o fewn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Yn yr ystyr hwnnw, mae’r Aelod yn llygad ei le i ddweud bod y methodolegau a fydd yn sail i'r fframwaith cyllidol yn gwbl hanfodol, y bydd yn rhaid inni fynd i’r afael â chwestiynau fel y rhai a gafodd eu hateb yng nghytundeb yr Alban am newidiadau yn y boblogaeth a bod yn glir, fel yr wyf yn ei gredu, na allwn ni fod yn gyfrifol am newidiadau yn y boblogaeth sy'n cael eu sbarduno gan benderfyniadau nad ydynt yn perthyn yma yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Rwy’n cytuno ag ef bod modd o adolygu’r system yn annibynnol yn bwysig iawn. Mae’r Alban wedi sicrhau adolygiad annibynnol yn 2021 i wneud yn siŵr bod y system yno’n gweithio yn y ffordd a fwriadwyd ac ni fyddwn yn disgwyl dim llai i ni yma yng Nghymru.

Cyn belled â ble y mae trafodaethau â’r Trysorlys wedi’i gyrraedd, rwyf wedi cael un drafodaeth hyd yn hyn yn uniongyrchol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae gennyf gyfarfod wedi’i drefnu gydag ef ar gyfer 21 Gorffennaf ac yn fy nhrafodaeth wreiddiol ag ef, gwnaethom gytuno ei bod yn debygol, i mi, y byddem yn cyfarfod bob mis yn ystod yr hydref er mwyn cadarnhau rhai o'r manylion y bydd y fframwaith cyllidol priodol yn dibynnu arnynt. Rwy’n gobeithio na wnaiff hyn gymryd cymaint o amser ag a wnaeth yn yr Alban, ac rydym yn ffodus ein bod yn dilyn yr Alban o amgylch y llwybr hwn ac rydym wedi bod yn ffodus iawn bod ein cydweithwyr yn yr Alban wedi cydweithredu’n helaeth â ni, i’n galluogi i elwa ar eu profiad a chael rhywfaint o fewnwelediad i'r trafodaethau a ddigwyddodd.

Rwy'n meddwl bod llawer yng nghytundeb yr Alban sy'n rhoi man cychwyn da iawn i ni ar gyfer ein trafodaethau wrth i ni ddechrau arnynt yn yr hydref. Mae'n hanfodol i mi bod gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfle i barhau i graffu ar y darlun sy'n datblygu yn y trafodaethau hynny, yn rhannol oherwydd yr hoffwn wneud yn siŵr fy mod yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan Aelodau, ond hefyd oherwydd y pwynt a wnes i yn fy natganiad sef ein bod, yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddem yn gallu cytuno ar rai pethau craidd pwysig a oedd yn bwysig ar draws y Cynulliad Cenedlaethol cyfan, bod hynny yna'n cryfhau ein siawns yn sylweddol o gynnal y dadleuon hynny y bydd yn rhaid i ni eu cael ar ben arall yr M4.