6. 5. Statement: Tax Devolution and the Fiscal Framework

Part of the debate – in the Senedd at 3:04 pm on 5 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:04, 5 July 2016

(Translated)

May I also thank the Cabinet Secretary for this statement? It’s right to say that it is a historic statement. The Secretary follows in the footsteps of Richard of Mold, who was the last treasurer of Llywelyn ap Gruffudd in 1283. However, it wasn’t possible for the Owain Glyndŵr parliament to raise taxes, because it’s quite difficult to raise taxes when at war, but at least the Secretary isn’t facing that difficulty. But he does make a fundamentally important point, of course, namely that the essence of democracy—the national democracy that the people of Wales have voted for twice—is the ability, of course, not only to make laws, but also to raise taxes and, in so doing, ensuring that there is real accountability for the services that we offer from the point of view of our society and the future that we can create together for our nation.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydych yn ei gydnabod yn eich datganiad, un rhan hanfodol o ddatganoli treth, a gwneud hynny’n llwyddiannus, yw fframwaith cyllidol clir ac ymarferol. Un peth a fydd yn allweddol i hyn, ac, yn anochel, y cur pen mwyaf mewn trafodaethau gyda Thrysorlys y DU, fydd y ffordd y caiff grant bloc Cymru ei addasu i adlewyrchu trosglwyddo pwerau codi refeniw treth i Lywodraeth Cymru. Mynegodd Llywodraeth flaenorol Cymru bryderon am yr addasiad a wnaethpwyd ar ôl datganoli trethi annomestig. Mae peryglon datganoli treth incwm yn rhannol yn glir. Byddwch yn ymwybodol o astudiaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a ddangosodd fod y dosbarthiad incwm gwahanol iawn yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr yn golygu y bydd methu ag amrywio'r trothwy, er enghraifft, yn peri anawsterau mawr. Ac felly gallai mecanwaith anghywir gostio cannoedd o filiynau i gyllideb Cymru bob blwyddyn.

A wnaiff yr Ysgrifennydd roi rhai manylion pellach inni am safbwynt Llywodraeth Cymru ar addasu grant bloc a mynegeio, yn enwedig pa fecanweithiau penodol y mae’r Llywodraeth yn eu ffafrio; sut y mae'n bwriadu ymdrin â thwf gwahaniaethol yn y boblogaeth, mewn ffurflenni treth, mewn twf economaidd; pa weithdrefn sy'n cael ei chynnig ar gyfer sicrhau cytundeb ynglŷn â pha un a yw newid treth yn ymarferol; sut i wahaniaethu rhwng effeithiau gradd un a gradd dau; a pha broses apeliadau neu drefn datrys anghydfodau fydd ar waith os yw Llywodraethau’r DU a Chymru yn anghytuno?

Bu llawer o sôn am yr egwyddorion dim niwed a thegwch i’r trethdalwr sy'n tanlinellu fframwaith cyllidol yr Alban, ond onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, yn achos Cymru, un o rannau cyfansoddol tlotaf y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, y dylai fod Llywodraeth y DU yn barod i ganiatáu nid egwyddor dim niwed, efallai, ond egwyddor bonws treth a fyddai’n caniatáu i ni yng Nghymru elwa’n anghymesur ar newidiadau treth fel math o bolisi rhanbarthol? Yn benodol o ran treth incwm, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am gymaint â phosibl o hyblygrwydd ar ddatganoli treth incwm, gan gynnwys y pŵer i addasu lwfansau a throthwyon a chreu bandiau newydd?

Mae'n sôn am y trafodaethau â’r Trysorlys; a allai ddweud ychydig mwy am ein sefyllfa yn y broses honno? A yw eisoes wedi cael cyfarfod ar lefel weinidogol, a sut y bydd yn bwrw ymlaen â’r broses honno dros yr haf?

Parhaodd y trafodaethau rhwng Llywodraeth yr Alban a'r Trysorlys am fframwaith cyllidol yr Alban am oddeutu 11 mis. Un feirniadaeth i'r trafodaethau hynny oedd y diffyg tryloywder. Rydych yn dweud yn eich datganiad—ac rydym yn croesawu hyn—y dylai fod gan y Cynulliad hwn y pŵer i dderbyn neu wrthod fframwaith newydd. A allwch chi hefyd roi sicrwydd inni y bydd gan y Cynulliad ddigon o gyfle i gyfrannu at y trafodaethau hynny a chraffu arnynt, a chytuno ar yr egwyddorion sylfaenol ymlaen llaw? Mae hyn yn gwbl hanfodol o ystyried ein profiad o fformiwla Barnett, a gafodd, wrth gwrs, ei chyflwyno heb ymgynghori ar ddiwedd yr 1970au, ac nad yw erioed wedi ei diwygio er gwaethaf ei hannhegwch amlwg.