5. 4. Statement: EU Funding

Part of the debate – in the Senedd at 3:19 pm on 11 October 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:19, 11 October 2016

(Translated)

Thank you very much, Deputy Presiding Officer, and thank you for this opportunity to provide Members with an update on the European structural fund programmes. The implications for Wales of leaving the European Union have been regularly rehearsed in this Chamber since 23 June. Today, I will focus instead on the progress made in deploying funds already secured, particularly in the 2014-2020 round, where Wales’s programmes were the first to be approved in the UK, and amongst the first in Europe. Consistent progress has been made since the programmes were launched in December 2014, investing EU funds in schemes across the country. Those schemes are clearly linked to regional needs and growth opportunities, and they demonstrate the potential to generate significant economic, social and environmental benefits across Wales.

EU funds, from which our businesses, communities and people have benefited significantly for more than a decade, have helped to shape the development of Wales’s economic fortunes and to lay the foundations for more sustainable economic prosperity.

Felly y mae, Ddirprwy Lywydd, ers y flwyddyn 2000, ac er gwaethaf y cyfnod economaidd anodd yn ddiweddar, mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu at gynnydd nodedig mewn cyfraddau cyflogaeth, a gwelwyd y gwelliannau mwyaf yn rhanbarthau’r gorllewin a’r Cymoedd, i fyny o 64.6 y cant yn y flwyddyn 2000 i 70.7 y cant ym mis Mehefin eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cynyddodd y ganran yn y dwyrain o 71.7 y cant i 72.4 y cant. Gostyngodd lefelau anweithgarwch economaidd yn y gorllewin a'r Cymoedd yn ystod y cyfnod hwnnw o 30.8 y cant i 25.2 y cant. Ers 2004, mae lefelau sgiliau ledled Cymru wedi gwella, wrth i gyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ostwng o 17 y cant i 9.5 y cant. Ar yr un pryd, mae’r buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd wedi mwy na dyblu ac mae'r bwlch rhwng gwerth ychwanegol gros y gorllewin a'r Cymoedd a chyfartaledd y DU wedi lleihau.

Ers y flwyddyn 2007, mae prosiectau cronfeydd strwythurol yr UE ar eu pennau eu hunain wedi helpu bron i 73,000 o bobl i gael gwaith, wedi helpu dros 234,000 o bobl i ennill cymwysterau, wedi cefnogi bron i 12,000 o fusnesau newydd i ddechau, ac wedi helpu i greu rhyw 37,000 o swyddi. Mae'r cyflawniadau hyn, Ddirprwy Lywydd, yn dangos yn glir yr effaith gadarnhaol y mae arian yr UE eisoes wedi ei chael ar gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru.

Yr wythnos diwethaf, croesawodd y Prif Weinidog ymrwymiad pellach Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid ar gyfer pob un o gynlluniau’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a’r cronfeydd buddsoddi a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwarantu hwn ynddo’i hun yn cydnabod pa mor bwysig yw arian yr UE i Gymru er mwyn mynd i'r afael gwahaniaethau economaidd a chymdeithasol. Mae’n parhau i fod yn wir, fodd bynnag, bod ein gallu i gyflawni rhaglenni 2014-20 yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn unol â'n cytundebau â'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hyd yn hyn, rydym eisoes wedi buddsoddi £830 miliwn o gronfeydd strwythurol yn y rhaglenni—sef tua 43 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-2020—ac mae hynny'n ein rhoi ni ar y blaen o’i gymharu â pherfformiad rhanbarthau eraill y DU.

Ein blaenoriaeth yw parhau i wneud penderfyniadau ariannu cyn gynted ag y gallwn, er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein dyraniad cyllid a sicrhau bod gweithgareddau yn dechrau cyn gynted ag sy’n bosibl, a byddaf yn gwneud y neges hon yn glir ac yn trafod y ffordd hon o wneud busnes â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni yn y digwyddiad blynyddol i rannu gwybodaeth am gronfa’r UE, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ei gwneud yn glir bod hon yn ymdrech gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd a fydd yn cynnwys yr holl Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet. Bythefnos yn ôl, roeddwn i’n gallu cyhoeddi £4.7 miliwn ar gyfer y prosiect OPUS sy’n gweithio gyda phobl ifanc, ac £11.9 miliwn i ddatblygu’r prosiect SEACAMS hynod lwyddiannus, a bydd y ddau yn cael eu cynnal yn y gogledd. Heddiw, bu’n bleser gennyf gyhoeddi £850,000 ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i Brifysgol Abertawe i gefnogi rhagor o raddau Meistr ymchwil a doethuriaethau mewn peirianneg i fyfyrwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau, gan gynnwys Tata Steel. Yr wythnos diwethaf, roedd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi £2.3 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer y rhaglen twf busnesau cymdeithasol, gwerth £4 miliwn, gan gynnig cymorth ariannol o hyd at £150,000 i fusnesau cymdeithasol ledled Cymru. Bydd rhagor o gyhoeddiadau cyllido gan Weinidogion eraill yn y dyddiau, wythnosau, a misoedd sydd i ddod.

Drwy’r ymdrechion cyfunol hyn ac ymrwymiad aruthrol ein partneriaid, rydym yn gobeithio rhoi cytundebau ar waith sy'n cwmpasu tua 60 y cant o'n holl gyllid erbyn i Lywodraeth y DU wneud ei datganiad yr hydref ym mis Tachwedd. Byddwn yn gwneud hyn, Ddirprwy Lywydd, ar sail cadarnhad gan Drysorlys y DU, yn unol â’r setliad datganoli, mai mater i Lywodraeth Cymru fydd parhau i bennu sut i wario cyllid yr UE yng Nghymru, a byddwn yn gwneud hyn yn unol ag amcanion a thargedau a gynlluniwyd yn ein rhaglen.

Datblygwyd y rhaglenni hyn, ac maent yn cael eu gweithredu a'u monitro, mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Bu'r dull partneriaeth hwn yn hanfodol i lwyddiant ein rhaglenni a bydd yn parhau i fod yn nodwedd gref o sut yr ydym yn gwneud busnes yma yng Nghymru. Bydd y pwyllgor monitro rhaglenni ar gyfer y cronfeydd strwythurol a’r cronfeydd buddsoddi yn arbennig, yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth i ni sicrhau bod cronfeydd yr UE yn cael yr effaith fwyaf. Bydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni hefyd yn helpu i lywio strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Gymru wrth i ni baratoi ar gyfer gadael yr UE. Rwyf wedi bod, felly, yn arbennig o falch o weld bod Julie Morgan wedi'i phenodi gan y Prif Weinidog yn gadeirydd newydd ar y Pwyllgor Monitro Rhaglenni ac y bydd yn cadeirio ei chyfarfod cyntaf yn ddiweddarach eleni. Dymunaf bob llwyddiant i Julie yn y swydd newydd bwysig iawn hon ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos â hi.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gan Gymru hanes cryf o ran cyllid Ewropeaidd a chyflawni rhaglenni rhanbarthol drwy bartneriaethau ymrwymedig ac effeithiol. Ein blaenoriaeth yn awr yw adeiladu ar y cyflawniadau hynny yn fwy fyth i sicrhau bod buddsoddiadau yr UE yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau ein cyd-ddinasyddion, i wneud hynny i'r graddau mwyaf posibl, ac am y cyfnod cyfan y mae’r cyllid ar gael. Diolch yn fawr iawn.