Part of the debate – in the Senedd at 4:30 pm on 18 October 2016.
May I start by thanking the Cabinet Secretary for bringing a comprehensive statement to the Assembly this afternoon? And may I say at the outset that there has been a void in terms of policy in terms of what the Government has proposed to do in eradicating TB in cattle, in the fact vaccines weren’t available and the fact that the Government had been reliant on a vaccine to deal with the disease? Now it seems to me that the Government, in considering this statement, does accept the current situation as it exists, and that we do need to tackle the disease in the wildlife reservoir as well, and that we also need to consider alternative options. In that context, may I tell her that farmers and the agricultural industry more widely will expect that to happen? Although the number of herds that are infected is reducing, the intensity of infection is increasing and, as she has outlined to be fair, in her statement today, in some areas the disease is almost in the ground and it’s impossible to deal with without tackling the wildlife reservoir too.
May I just ask a few specific questions, therefore, because this is the beginning of a consultation process, as the Cabinet Secretary has already outlined? First of all, she says that this consultation and the new ideas proposed in her statement will lead to a refreshed approach to the governance of the TB eradication programme. Of course, the programme is something that has been given the consent of the European Commission and she will know, as I do, that a number of farmers would be concerned that any plan that we have in Wales should pass the tests put in place by the Commission to ensure that exports from Wales are respected, and also, as we leave the European Union, that that situation should continue. So, Cabinet Secretary, can you just outline how you will ensure that the new, refreshed programme will be given that approval?
A gaf i droi at y clefyd a'r gydnabyddiaeth yn eich datganiad bod y clefyd yn cael ei drosglwyddo rhwng bywyd gwyllt a gwartheg, er nad yw hynny bob amser yn drosglwyddiad uniongyrchol, ond fel rhywbeth sy'n gynhenid yn yr amgylchedd a’r borfa? Rydych chi’n cydnabod yn y datganiad bod yn rhaid i ni reoli'r clefyd o fewn y boblogaeth bywyd gwyllt, yn enwedig, yn eich geiriau chi, mewn ardaloedd sydd ag achosion cronig o TB, lle mae wir yn broblem.
A gaf i groesawu’r ffaith eich bod yn dweud na fydd unrhyw ddifa yn digwydd fel sydd wedi'i wneud yn Lloegr? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Rwy’n derbyn hynny'n llwyr ac nid wyf yn credu bod yr hyn y mae Lloegr wedi dewis ei wneud wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o gwbl. Fodd bynnag, rydych chi yn derbyn y dylid mynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng bywyd gwyllt a'r clefyd mewn gwartheg. Nid oes gennym frechiad. A allwch chi ddweud ychydig mwy am sut y gallech chi ystyried gweithredu’r hyn y gwnaethoch chi ddewis ei gynnwys fel tystiolaeth yn eich datganiad ynglŷn â dysgu o'r profiad yng Ngogledd Iwerddon? A allwch chi egluro y gall hynny, i bob pwrpas, olygu y gallai grŵp o foch daear heintiedig gael eu lladd yn hytrach na mochyn daear unigol ac, wrth gwrs, bwysleisio bod hyn yn ymwneud â chael gwared ar y clefyd ym mhoblogaeth y moch daear? Nid yw'n golygu difa moch daear yn gyffredinol neu ddifa moch daear mewn ardal benodol. Rydym wedi gorfod symud ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi rai blynyddoedd yn ôl lle rhoddwyd cynnig ar gael meysydd gweithredu yng Nghymru. Mae gennym brofiad o frechu yn yr un ardal weithredu benodol yr wyf i’n ei chynrychioli ac mae hi’n amlwg yn amser yn awr i fynd i’r afael â’r haint ymysg y boblogaeth bywyd gwyllt yn y ffermydd hynny lle mae achosion o heintiau yn digwydd dro ar ôl tro.
Dim ond i droi yn benodol at eich cynnig ynglŷn â gosod cap ar iawndal. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau na fydd yr un ffars a gawsom y tro diwethaf y buom ni’n edrych ar daliadau iawndal yn digwydd eto? Rwy’n derbyn eich bod eisiau sicrhau nad oes gorbrisio yn digwydd yn y broses yma, ond ai gosod cap ar iawndal yw’r ffordd o wneud hynny, yn hytrach na chanolbwyntio mwy ar sicrhau prisio cywir a’r defnydd cywir o’r gweithdrefnau prisio hynny, fel yr ydych chi’n ei wneud yng nghyd-destun ffermio? Tybed beth sydd wedi gwneud i chi feddwl mai gosod cap ar iawndal, sy’n ddull eithaf eithafol o fynd i’r afael â’r broblem—mae’n broblem eithaf mawr, rwy’n derbyn hynny—ond mae’n ddull eithaf eithafol hefyd. Nid yw'n ystyried gwir werth yr anifeiliaid pedigri, ac mae hynny'n rhywbeth rwy’n credu y bydd ffermwyr yn awyddus i dderbyn sicrwydd yn ei gylch.
A allwch chi ddweud ychydig mwy am y potensial i wneud prynu doeth yn orfodol yng Nghymru? Mae hyn yn rhywbeth y gwnes i fy hun ei drafod ddoe ym marchnad y Trallwng. Nid yw’r pryder yn y fan honno yn ymwneud cymaint â’r hyn a allai ddigwydd yng nghyd-destun Cymru, ond pryder ynglŷn â sut y mae hynny'n effeithio ar gludo trawsffiniol, sut y mae'n effeithio gwerthiant-caiff llawer o anifeiliaid eu gwerthu yn y Trallwng, fel y gallwch ddychmygu, ar draws y ffin-ac yn arbennig y ffordd nad yw rhai prynwyr gwartheg o’r tu allan i Gymru, yn gynyddol, yn ymgysylltu mewn gwirionedd â’r farchnad wartheg yng Nghymru, oherwydd bod ganddynt bryderon ynglŷn â statws TB yng Nghymru. Efallai y bydd rhai pethau eraill yr ydych wedi eu nodi yn y datganiad yn helpu â’r pryderon hynny, ond rwyf eisiau deall sut y gall prynu doeth weithio yng Nghymru pan fo llawer iawn o’n gwerthiannau yn digwydd yn drawsffiniol, a pha un a fyddwch chi’n modelu hynny cyn ei gyflwyno efallai.
Felly, y peth olaf i’w ddweud yw fy mod yn cydnabod ac yn croesawu’r ffaith bod yna ddull rhanbarthol wedi’i nodi yma yn eich datganiad. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi gofyn amdano yn gyson, ac rydym ni’n dymuno bod yr amrywiaeth ehangaf posibl o adnoddau ar gael, nid dim ond yn uniongyrchol i ffermwyr, ond i'r Llywodraeth hefyd, i fynd i’r afael â'r clefyd yn seiliedig ar angen lleol a statws y clefyd. Rwy'n credu mai'r peth olaf i’w ofyn ac i’w ddweud yw, fel yr ydych chi’n nodi yn eich cynnig, pan mai’r nod yw mynd i'r afael â TB sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn drwy weithio gyda ffermwyr ac arbenigwyr a milfeddygon, y byddwch chi’n sicrhau bod yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu gan Ogledd Iwerddon a’r potensial sy’n bodoli i dargedu’r boblogaeth bywyd gwyllt mewn gwirionedd, yn ddewis ar gyfer y ffordd ymlaen.