Part of the debate – in the Senedd at 4:57 pm on 28 February 2017.
Well, I thank Adam Price for what he said at the outset of his contribution. It was a pleasure for me to go with him to Velindre with the vice-president of the EIB, Jonathan Taylor, and to hear an update about what they’re planning in Velindre.
Mae ansawdd ein syniadau ar gyfer buddsoddi yn bwysig iawn wrth ddenu sylw a diddordeb buddsoddwyr fel Banc Buddsoddi Ewrop, ac roedd yn dda iawn bod yno yn Felindre i glywed y diweddaraf ganddyn nhw.
Mae gennym ni rai atebion gwahanol yng Nghymru i’r atebion a ddatblygwyd ganddynt yn yr Alban, ond rydym ni wedi gallu dysgu oddi wrth ein gilydd. Roedd y ffaith bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dosbarthu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf o'r Alban yn ôl ar y llyfrau cyhoeddus yn wers eithaf anodd i’r Alban ond mae’r Scottish Futures Trust wedi bod yn gweithio ar syniadau yn hynny o beth. Ein syniadau ni, o ran cyfran ecwiti a chyfarwyddwr budd y cyhoedd, gan roi cyfran o’r elw i ni ond mesurau diogelu er budd y cyhoedd, yw'r ffordd yr ydym ni’n credu y bydd y system yn gweithio orau yng Nghymru. Ac mae gan yr Alban rai syniadau eraill y maen nhw’n eu hystyried bellach i geisio cael dosbarthiad yn ôl ar y sector preifat mewn cynlluniau yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio’n dybiannol ar sail y syniad y byddem yn cymryd cyfran ecwiti rhwng 15 a 20 y cant mewn unrhyw gwmni prosiect. Mae'n rhaid i chi gael o leiaf 15 y cant er mwyn caniatáu i'ch cyfarwyddwr budd y cyhoedd allu arfer y 19 mesur diogelwch y gall y cyfarwyddwr hwnnw eu harfer ar ran y cyhoedd. Rwy'n credu y byddai cyfran ecwiti o hyd at 20 y cant, a fyddai’n golygu yn achos Felindre, er enghraifft, ar sail ffigurau cyfredol, buddsoddiad cyfalaf uniongyrchol o £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a byddai'n ddigonol i sicrhau'r mesurau diogelu yr ydym ni eu heisiau ac i roi llif o gyfran yr elw i ni yn y dyfodol.
Edrychaf ymlaen at drafod gydag Adam Price rai o'r syniadau ehangach hyn ynghylch sut y gallwn ddefnyddio arian cronfa bensiwn Cymru i fuddsoddi yn nyfodol y teuluoedd y bydd y bobl hynny sydd wedi rhoi arian mewn cronfeydd pensiwn yn dymuno eu sicrhau yma yng Nghymru. Pan drafodais ddyfodol Banc Buddsoddi Ewrop gyda Changhellor y Trysorlys, i fod yn deg, dywedodd ei fod yn cydnabod yr achos dros geisio dod o hyd i ffordd o barhau i fod yn gyfranogwr yn y banc, ond dywedodd os nad oedd hynny’n bosibl, yna byddai'n rhaid i ni ddyfeisio llwyfan o’r fath ein hunain yma yn y Deyrnas Unedig. Mae'r ffaith bod gennym ni berthynas mor dda gyda Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru, rwy’n meddwl, yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i allu dadlau o'r profiad hwnnw ac, yn wir, i weld a fydd unrhyw bosibilrwydd i gorff y DU gyfan o'r fath, os oes angen un, ddod yma i Gymru.