Part of 1. 1. Questions to the Cabinet Secretary for Education – in the Senedd at 1:46 pm on 22 March 2017.
Nid wyf yn siŵr fy mod i yn derbyn hynny, achos os ydym ni’n derbyn y dadansoddiad, derbyn yr awgrym mae llefarydd Plaid Cymru wedi ei wneud, mi fyddem ni, wrth gwrs, yn cael un system ariannu ar gyfer ysgolion ym mhob man ar draws Cymru. Mi fyddem ni yn cenedlaetholi, os ydych chi’n licio, ysgolion lleol. Nawr, nid ydw i’n siŵr bod yr Aelod yn gofyn am hynny. Nid ydw i, yn bendant, eisiau gweld hynny. Felly, mae mynd i fod rhywfaint o anghysondeb, os ydych chi’n licio, mewn rhannau gwahanol o’r wlad sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol yr awdurdod lleol. Nawr, mae hynny yn fater i bobl leol, ar gyfer ein democratiaeth leol ni. A ydym ni’n meddwl bod y pwysigrwydd o gysondeb yn fwy pwysig na’r anghenion, ac efallai blaenoriaethau, democrataidd lleol? Ac rydw i’n credu dyna’r cwestiwn ehangach.