Part of 1. 1. Questions to the Cabinet Secretary for Education – in the Senedd at 1:46 pm on 22 March 2017.
Na, rŷch chi’n gwneud pwynt digon teg. ‘Rhywfaint o amrywiaeth’ oedd y term ddywedoch chi ond, wrth gwrs, rŷm ni’n sôn yn fan hyn am bron i ddwbl y gwariant mewn rhai ardaloedd o gymharu ag ardaloedd eraill, felly, beth roeddwn i’n trio gofyn oedd beth allwn ni ei wneud i drio cysoni rhywfaint ar yr anghysondeb sy’n bodoli. Ond, nid oes gwadu bod y pwysau ariannol yn ddifrifol, a’i fod e yn mynd i arwain at drafferthion sylweddol yn y dyfodol. Wrth gwrs, pan rŷch chi’n edrych ar yr holl newid sydd yn yr arfaeth yn y system addysg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yma—buom ni’n trafod y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r gofynion ychwanegol a ddaw yn sgil hynny; rŷm ni’n gwybod am y newidiadau i’r cwricwlwm, a’r anghenion wedyn o safbwynt datblygu proffesiynol y gweithlu ac yn y blaen—mae’n glir y bydd pwysau cynyddol, aruthrol ar athrawon ac ar yr adnoddau yn yr ysgolion dros y misoedd nesaf, ac ar yn union yr un pryd, wrth gwrs, rŷm ni’n gweld bod staff yn cael eu diswyddo—mae nifer ohonom ni yn llywodraethwyr mewn ysgolion sy’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn—lle mae ysgolion yn torri yn ôl ar eu cyllidebau nhw. Nawr, gan gofio gwaith ymchwil NUT Cymru blwyddyn diwethaf oedd wedi datgelu bod rhyw 52,000 o ddyddiau ysgol wedi cael eu colli yn 2015 oherwydd salwch yn deillio o bwysau gwaith, ac o gofio’r pwysau ariannol rŷm ni wedi bod yn sôn amdano, a ydych chi’n hyderus bod gan ysgolion Cymru y capasiti sydd ei angen i weithredu’r holl newidiadau yma sydd ar y gweill, ac nid jest eu gweithredu nhw, ond eu gweithredu nhw yn effeithiol?