Part of 1. 1. Questions to the Cabinet Secretary for Education – in the Senedd at 1:48 pm on 22 March 2017.
Ydw. Ydw, mi ydw i. Nid yw hynny’n ymateb derbyniol, rwy’n deall hynny. Mae’n un peth i restru’r problemau a’r heriau sydd yn wynebu ysgolion; mae’n beth gwahanol i’w datrys nhw. Mae’r Llywodraeth yma amboutu datrys problemau, wynebu’r heriau, ac wedyn sicrhau ein bod ni’n gallu buddsoddi mewn addysg plant ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn gwneud hynny. Trwy’r math o newidiadau rydych chi wedi eu rhestru i ryw raddau y prynhawn yma, ac rydych chi’n ymwybodol ohonyn nhw drwy waith y pwyllgor, rydym ni yn mynd i sicrhau ein bod ni’n buddsoddi i wella safon addysg i bob un plentyn ar draws Cymru, ac mae hynny yn mynd i fod yn her, ond beth rydym ni’n sicrhau yw bod gan ysgolion yr adnoddau a’r gefnogaeth i sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny. Ydw, rydw i yn sicr bod ganddyn nhw.