Part of the debate – in the Senedd at 6:44 pm on 4 April 2017.
May I also add my support for the Bill at this stage and say, although the Cabinet Secretary is technically right that this is the second finance Bill, for the public, this is the first taxation Bill because this is the first Bill that sets tax rates and changes the way that we collect taxes in Wales? I do think that that will be, if not welcomed, then certainly it will change the way that we do politics in moving forward in this place.
I would also like to thank other members of the Finance Committee for their detailed scrutiny work on this Bill. I’d also like to thank the Cabinet Secretary for his willing assistance and his officials’ willing assistance, but also for the way in which he responded to the Finance Committee and the recommendations made by the committee by various parties, tailoring the Bill where possible to do so, and in a way that was consensual and good natured, too.
I think that there is one issue where we couldn’t come to complete agreement, and that was the issue of whether land transaction rates should be on the face of the Bill or part of an alternative process. At this time, of course, we have agreed that it should be part of another process, but this question will arise again in this Assembly, and, as we develop our taxation policies, and as we have more tax devolution, it will become an issue for the whole Assembly to decide on tax rates in Wales.
Felly, yr adeg hon y flwyddyn nesaf, Dirprwy Lywydd, byddwn wedi penderfynu ar gyfraddau newydd y dreth trafodiadau tir yng Nghymru. Efallai’n wir y bydd gennym dreth tirlenwi y byddwn wedi penderfynu arni, ac ymhen dwy flynedd byddwn wedi pleidleisio a phenderfynu ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Dyna pa mor gyflym y mae’r broses hon yn mynd rhagddi. Mewn dwy flynedd byddwn wedi symud o fod heb un geiniog wedi’i chodi yng Nghymru i’w gwario yng Nghymru yn uniongyrchol yn adnoddau’r Cynulliad hwn, i fod â bron 25 y cant o'n hadnoddau wedi eu codi a’u gwario yng Nghymru—biliynau o bunnoedd. Y cyfan a ddywedaf ar hyn o bryd yw: nid wyf yn credu bod ein hetholwyr yn gwybod llawer am hyn. Fe fyddant yn gwybod cyn bo hir, ac yn sicr, diolch i'r ffordd y mae’r Bil hwn wedi mynd trwyddo, mae’r arbenigwyr yn gwybod am hyn, ac mae'r cyfreithwyr treth yn gwybod am hyn, ac mae'r trawsgludwyr yn gwybod amdano a bydd yr asiantau tai yn gwybod amdano. Ond rwy’n credu bod gwaith i'w wneud, a fydd nawr yn swyddogaeth yr Awdurdod Cyllid Cymru newydd, dan gadeiryddiaeth newydd, i godi ymwybyddiaeth am bwerau codi trethi yng Nghymru.
Y pwynt olaf yr wyf am ei wneud yw hyn. Er na chawsom gytundeb ar a ddylai cyfraddau treth fod ar wyneb y Bil neu mewn proses arall, dros gyfnod o amser, mae gen i ddiddordeb, ac mae gan y Pwyllgor Cyllid yn sicr ddiddordeb, edrych i weld a ddylem gael dull ariannol deddfwriaethol, Bil cyllidol, Bil cyllid, sy’n dod ger ein bron yn flynyddol ac y pleidleisir arno. Oherwydd rwyf yn dymuno i chi i gyd rannu’r llawenydd a gafwyd yn y Pwyllgor Cyllid ar ddeddfwriaeth treth.