Part of the debate – in the Senedd at 6:47 pm on 4 April 2017.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Could I thank everyone who has contributed to the debate this afternoon, and for all the support that they’ve provided to the process when the Bill has been before the committee, and here before the full Assembly as well?
Dirprwy Lywydd, credaf fod y Bil hwn yn dangos cadernid y prosesau sydd gennym yma yn y Cynulliad. Mae'n well Bil na'r Bil a gyflwynwyd gyntaf, ac mae'r broses graffu wedi ei grymuso. Dywedodd Simon Thomas nad yw aelodau'r cyhoedd wedi clywed am y Bil hyd yn hyn. Os na chawsom hwyl arni gyda’r Bil, ac os bydd yn mynd o chwith, yna byddent yn sicr o glywed am y peth wedyn. Felly mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom, ac rwy'n credu bod ymdeimlad gwirioneddol o ddyletswydd ymhlith aelodau'r pwyllgor ac eraill i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y Bil cystal ag y gallai fod.
Rydym mewn cyfnod sy'n symud yn gyflym iawn o ran ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn yng Nghymru. Bydd hyn yn ein tywys i edrych ar y prosesau sydd gennym er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer ein cyfrifoldebau yn y dyfodol. Am heddiw, gofynnaf eto i'r Aelodau gefnogi'r Bil hwn ar y llyfr statud fel y gall wneud y gwaith pwysig iawn yr ydym wedi gofyn iddo ei gyflawni.