Part of 10. 9. Stage 3 of the Landfill Disposals Tax (Wales) Bill – in the Senedd at 6:10 pm on 20 June 2017.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Since this is my first contribution to today’s proceedings, I’d like to make a few general remarks. Our aim in this Bill has been to build on the administrative framework that was established by the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016. We do that by setting out the operational framework for introducing landfill disposal tax in Wales, which will replace landfill tax in April next year.
I believe it to be common ground amongst us all that we should establish a replacement tax on disposals to landfill made in Wales that can be managed and collected efficiently and effectively in Wales. That will need to happen within a tax system that protects revenue and that is also clear, open and fair for the taxpayer.
I would like to thank all Members of the Assembly, particularly the members of the Finance Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee for their scrutiny of the Bill to date. This has been an extremely valuable contribution to helping to shape this tax legislation.
I’m also very grateful to those who have been willing to engage with us and contribute to our thinking as we develop the landfill disposals tax legislation. Throughout this process, I think it’s fair to say that the Welsh Government has listened to the views of stakeholders and Members. I was pleased to be able to accept almost all of the committee’s recommendations, and where necessary, I brought forward Stage 2 Government amendments to address the issues raised.
Wedi dweud hynny, Dirprwy Lywydd, byddaf yn troi at y gwelliannau penodol yng ngrŵp 1. Hoffwn i gynnig a siarad am ddau welliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn, a hefyd roi sylw i welliant 52 Nick Ramsay.
Mae dau welliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn yn gymharol dechnegol, ac mae eu hangen i adlewyrchu newidiadau a gytunwyd yn nhrafodion Cyfnod 2. Mae bob amser wedi bod yn fwriad y Llywodraeth i gynnig cynllun cymunedau fel rhan o dreth gwarediadau tirlenwi. Argymhellodd adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid bod cyfeiriad at y cynllun yn cael ei roi ar wyneb y Bil. Cyflwynodd y Llywodraeth welliant mewn ymateb i'r argymhelliad hwnnw, a chafodd y gwelliant hwnnw ei gefnogi yng Nghyfnod 2, ac, ar 13 Mehefin, cyhoeddwyd memorandwm esboniadol wedi’i ddiweddaru ac asesiad effaith rheoleiddiol, yn cynnwys manylion am y cynllun cymunedau.
Heddiw, mae gwelliant 2 yn adlewyrchu’r datblygiad hwnnw drwy ychwanegu cyfeiriad at y cynllun cymunedau i mewn i adran drosolwg y Bil. Mae angen gwelliant 32 hefyd i sicrhau cysondeb arddull drafftio ar draws y Bil, a gofynnaf i Aelodau gefnogi dau welliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Bydd yn rhaid i mi ragweld ychydig o'r hyn yr wyf yn credu y gallai Nick Ramsay fod ar fin ei ddweud, ar ôl clywed ei gyfraniadau yng Nghyfnod 2, ac mae ei welliant, fel y bydd Aelodau yn gweld, yn anelu at roi mwy o fanylion am y cynllun ar wyneb y Bil. Rwyf am fod yn glir y prynhawn yma nad oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i'r syniadau a grynhowyd yn y gwelliant hwnnw. Maent yn gyson iawn â'r trafodaethau a gynhaliwyd eisoes yn y pwyllgor ar fanylion y cynllun. Fy rheswm dros beidio â gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 52 yw oherwydd fy mod yn awyddus i aros yn gyson gydag ymrwymiad a wnes yng Nghyfnod 2, a ailddatganwyd gennyf mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 5 Mehefin, sef ymrwymiad i barhau i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid wrth ddatblygu manylion y cynllun.
Mae briff wedi cael ei gynnig i'r pwyllgor, ar ôl toriad yr haf, i'r Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y briff hwnnw yn cynnwys manylion am yr ymarfer caffael ar gyfer y corff dosbarthol ar gyfer y cynllun, ac mae’r ymarferiad caffael hwnnw eisoes wedi dechrau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig caniatáu i gyrff dosbarthol posibl ddod â'u barn at y bwrdd o ran sut y byddent yn rheoli'r broses ddyfarnu grantiau ac asesu ceisiadau unigol.
Gallai gwelliant 52 Nick Ramsay, er ei fod yn gyfraniad defnyddiol iawn at y drafodaeth honno, gael canlyniad anfwriadol o gyfyngu ar eu cyfraniadau, pe bai'n cael ei basio yn y cam hwn. Er fy mod i'n awyddus iawn i roi ymrwymiad y prynhawn yma y bydd sylwedd gwelliant 52 yn ffurfio rhan o'r drafodaeth barhaus ar fanylion y cynllun cymunedol, rwy’n gobeithio na fydd yr Aelodau'n cyfyngu ei ddatblygiad drwy osod y gwelliant hwn ar wyneb y Bil y prynhawn yma.