Part of the debate – in the Senedd at 3:38 pm on 20 June 2017.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and I thank the First Minister for his statement today.
Wrth gwrs, does dim amheuaeth bod yn rhaid i drefn llywodraethu'r DU yn y dyfodol newid ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai llawer ohonom yn dadlau bod angen iddi newid beth bynnag oedd canlyniad y refferendwm y llynedd, wrth gwrs. Mae'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw’n ymhelaethu ar y cynigion ar gyfer Cyngor Gweinidogion i’r DU i gytuno ar y cyd ar y fframweithiau cyffredin y bydd eu hangen ar ôl inni adael yr UE, ac mae'n nodi’n gywir ystod o feysydd a swyddogaethau sydd wedi'u datganoli, ond sy’n gweithio o fewn ffiniau fframweithiau presennol yr UE.
Ar ôl gadael yr UE, mae’r materion hyn yn parhau i fod wedi'u datganoli, fel y dywedodd y Prif Weinidog, oni bai bod Llywodraeth y DU yn gweithredu’n unochrog i gymryd y materion hyn yn ôl, yn ôl i'w statws cyn 1999, ac, wrth gwrs, byddai hynny'n annerbyniol i Blaid Cymru. Ond rydym yn iawn i fod yn bryderus am hyn, oherwydd, fel y mae'r Prif Weinidog wedi’i ddweud, nid ydym wedi cael dim manylion am fecanwaith y datganoli sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg ar ôl Brexit, ar wahân i eiriau cynnes. Ac rwy’n tybed a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw newid meddwl sydyn a gaiff Prif Weinidog y DU am fecaneg datganoli a chydweithrediad rhwng y gweinyddiaethau datganoledig yn y dyfodol ar y materion hynny lle bydd angen cydweithio a chydweithredu. Rwy'n clywed bod hi wedi bod yn astudio llywodraeth ddatganoledig yn galed ers yr etholiad cyffredinol am ryw reswm.
Er bod Plaid Cymru yn croesawu, wrth gwrs, y cynigion am Gyngor Gweinidogion y DU, fel yr amlinellwyd yn wreiddiol yn y Papur Gwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae'r papur a gyhoeddwyd ac sydd dan ystyriaeth heddiw’n cynnwys iaith na fyddai, wrth gwrs, yn cyd-fynd â phatrwm gwleidyddol Plaid Cymru o ran gwydnwch, na hyd yn oed ddymunoldeb, undeb gwleidyddol canolog y Deyrnas Unedig. Ond, rydym yn cytuno ei bod er lles pawb ac er lles pob cenedl i’r gwledydd weithio gyda'i gilydd a chydweithredu lle y gallant. A byddwn yn argymell bod y Prif Weinidog yn darllen pamffled a gyhoeddwyd gan Gwynfor Evans yn 1960, nad yw ar gael mewn unrhyw siop lyfrau dda, 'Hunanlywodraeth i Gymru a Marchnad Gyffredin ar gyfer Gwledydd Prydain'. Does dim angen gwladwriaeth or-ganolog arnom i hwyluso cysylltiadau da iawn rhwng ein gwledydd.
Mae amgylchiadau wedi newid, fel yr wyf wedi sôn amdano eisoes, ers etholiad cyffredinol y DU. Mae'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd nawr yn dal cydbwysedd grym ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicr yn rhoi un mantais wleidyddol i un weinyddiaeth ddatganoledig a allai ddod yn fantais economaidd sylweddol hefyd. Felly, tybed a yw'r Prif Weinidog wedi cael sgyrsiau gyda Phrif Weinidog y DU am sut na allwn ni gael Cyngor Gweinidogion y DU ar ôl Brexit, ond yn wir Cyngor Gweinidogion y DU brys cyn Brexit, nawr bod trafodaethau ar y gweill ac nawr bod un blaid, sy’n arwain gweinyddiaeth ddatganoledig, yn dal cydbwysedd grym ar draws y Deyrnas Unedig. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r tebygolrwydd y gwnaiff gweinyddiaethau datganoledig eraill nawr gytuno â Chyngor Gweinidogion ffurfiol i’r DU, ac ystyried y cyd-destun gwleidyddol newydd hwnnw oherwydd, yn wrthnysig, nawr byddai er budd i un blaid, o leiaf, pe na bai Cyngor Gweinidogion y DU, ond yn hytrach, berthynas ddwyochrog rhwng y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol?
Hefyd, a soniodd y Prif Weinidog am hyn yn ei ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, o ystyried y ffaith bod y cwestiwn am ffin Iwerddon, mater yr ardal deithio gyffredin a'r fframweithiau sy'n gorgyffwrdd sydd eisoes yn bodoli rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn uchel iawn ar yr agenda yn y trafodaethau rhwng yr UE a’r DU—yn wir, fe'u trafodwyd ddoe ar ddiwrnod cyntaf un y trafodaethau dwyochrog hynny—onid oes lle yn awr i fynd y tu hwnt i'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chyflwyno cynigion ar gyfer Cyngor Prydeinig-Gwyddelig newydd tebyg i’r Cyngor Nordig? Wrth gwrs, yn ardal y Cyngor Nordig mae gweinyddiaethau datganoledig, gwladwriaethau annibynnol—rhai y tu mewn i'r UE, rhai y tu allan i'r UE—a chwestiynau am ffiniau tir. Onid oes angen inni yn awr fod yn edrych y tu hwnt i gyfyngiadau'r Deyrnas Unedig yn unig a sicrhau y cawn Gyngor Prydeinig-Gwyddelig gweithredol gyda chyfranogiad llawn gan y gweinyddiaethau datganoledig? Oherwydd, wrth gwrs, bydd y penderfyniadau a wneir ym Mrwsel rhwng y DU a'r UE am y cwestiynau sy’n ymwneud yn benodol ag Iwerddon yn arwain at ganlyniadau enfawr ar gyfer meysydd datganoledig, o amaethyddiaeth i faterion gwledig ac i weinyddu’r porthladdoedd, yn enwedig yng Nghaergybi. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi dogfen debyg ar gyfer cynigion ar gyfer Cyngor Prydeinig-Gwyddelig newydd a fyddai'n cynnwys holl genhedloedd yr ynysoedd hyn, nid dim ond y rhai ohonom sy’n aelodau o’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Yn olaf, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn, yn gymharol ddiweddar, o blaid cyflwyno Bil parhad er mwyn gwarchod cyfansoddiad Cymru ac ymgorffori’r amddiffyniadau a’r hawliau yr ydym yn eu mwynhau heddiw yng nghyfraith Cymru. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd o ran cyflwyno Bil o'r fath.