Part of the debate – in the Senedd at 5:15 pm on 27 June 2017.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. It’s my pleasure to present the Landfill Disposals Tax (Wales) Bill before the National Assembly for Wales for its approval.
Hoffwn ddiolch yn fyr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o hynt y Bil, grŵp ymroddgar ac arbenigol o swyddogion sydd wedi rhoi cyngor rhagorol yn ystod datblygiad a hynt y Bil. Fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, mae nifer fach o drethdalwyr yn y maes hwn yng Nghymru, mewn maes technegol, arbenigol, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw, yr ymarferwyr, am eu parodrwydd i gyfrannu eu harbenigedd yn ystod datblygiad y Bil.
Rwy'n arbennig o ddiolchgar i bwyllgorau'r Cynulliad sydd wedi bod yn gyfrifol am graffu'r Bil, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol ac yn enwedig y Pwyllgor Cyllid a'i Gadeirydd, Simon Thomas. Mae craffu wedi gwella’r Bil hwn, Dirprwy Lywydd, o'r materion penodol iawn o sut y dylai’r gwastraff gael ei bwyso neu ostyngiadau dŵr gael eu cyfrifo i'r materion ehangach o nodi diben amgylcheddol y dreth yn y Bil i bob pwrpas, ac mae cyfeiriad yno at y cynllun cymunedau .
Bydd cam nesaf y gwaith nawr yn cynnwys y gweithredu’r ddwy dreth a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Cynulliad hwn a’r broses o sefydlu’n ffurfiol Awdurdod Cyllid Cymru ym mis Hydref, gyda chyfarfod cyntaf bwrdd yr Awdurdod Cyllid Cymru sydd newydd ei sefydlu.
Dirprwy Lywydd, credaf fod y Cynulliad hwn wedi mabwysiadu dull cydweithredol ac adeiladol o weithredu’r ddeddfwriaeth hon, yn seiliedig ar y dymuniad cyffredin i greu deddfwriaeth trethi deg a chadarn yma yng Nghymru. Yn ysbryd y cydweithredu hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi hynt y Bil hwn y prynhawn yma, y trydydd o dri bil treth yng Nghymru.