7. 6. Statement: Local Government Reform

Part of the debate – in the Senedd at 4:23 pm on 18 July 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:23, 18 July 2017

(Translated)

Cadeirydd, fel y nodir yn y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, mae angen i’r trefniadau partneriaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn enwedig fod yn eglur ac yn syml. Ynghyd â chyd-Aelodau gweinidogol, cynhaliwyd trafodaethau gyda'r cyngor a gyda byrddau iechyd lleol. O ganlyniad i hyn, ac er mwyn rhoi pwyslais penodol i drafodaethau dros yr haf, rydym ni’n cynnig y dylid addasu ffin Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i gynnwys ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd, bydd y Llywodraeth yn trafod y cynnig ac yn datblygu dogfen ymgynghori ffurfiol, a fydd yn destun datganiad pellach yn yr hydref.

Llywydd, bydd math newydd o berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn asio ein cynigion diwygio at ei gilydd. Mae’n rhaid i’r berthynas hon fod yn seiliedig ar barch y naill at y llall, ac ar berthynas newydd rhwng awdurdodau lleol a'u dinasyddion, sy'n cydnabod bod pobl yn asedau gwerthfawr ac sy'n eu galluogi i ddylunio dyfodol eu gwasanaethau a'u cymunedau ar y cyd.

Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog yn y datganiad rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin, bydd Bil llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad yn ystod 2018 er mwyn gweithredu’r cynigion diwygio hyn a chyflwyno darpariaethau eraill i’w hategu. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfle i barhau â'r ddeialog a’r trafodaethau gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill, rwy’n bwriadu cyflwyno’r Bil tuag at ddiwedd ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol.

Llywydd, local government reform is a joint effort, and the measures that I’ve outlined today will provide a range of tools and mechanisms for local government to build resilience and increase effectiveness by working together better and operating with more flexibility as individual authorities. I look forward now to hearing Members’ views.