6. 5. Statement: ‘Brexit and Fair Movement of People’

Part of the debate – in the Senedd at 4:30 pm on 19 September 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:30, 19 September 2017

(Translated)

Llywydd, two weeks ago we published ‘Brexit and Fair Movement of People’, the latest in a series of policy documents examining in detail the implications for Wales of leaving the European Union. In our document, we explore the role of migration in Wales, focusing on migration from Europe. We analyse the potential models that the UK Government might adopt for a future migration system, and we consider what impact these could have in Wales.

We propose a flexible but managed approach to migration, where people from Europe would be able to move to the UK if they had a prior job offer, or if they have the ability to find a job quickly. Coupled with this, there needs to be stronger enforcement of legislation to tackle exploitation of workers.

Llywydd, rydym ni wedi cyhoeddi'r ddogfen hon i roi mynegiant eglur, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o fuddiannau Cymru, er lles ein pobl a'n heconomi. Gyda 18 mis yn unig ar ôl tan y dyddiad y bydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, nid yw Llywodraeth y DU wedi nodi ei chynigion hyd yn hyn ynglŷn â sut y bydd mudo o Ewrop i'r DU yn cael ei reoli yn y dyfodol. Amserwyd ein dogfen i sicrhau bod barn a buddiannau Cymru yn hysbys ac yn ddealladwy yn y drafodaeth honno. A, Llywydd, mae'r safbwyntiau hyn yn bwysig.

Mae’n ofid i gyflogwyr yng Nghymru a fyddan nhw yn gallu recriwtio a chadw gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Mae cynaliadwyedd eu busnesau yn dibynnu’n aml ar y gweithwyr hynny o'r UE, yn union fel y mae diogelwch swyddi gweithwyr Cymru yn yr union fusnesau hynny. A, Llywydd, maen nhw’n iawn i ofidio, o ystyried y cynnydd diweddar a welwn yn nifer dinasyddion yr UE sy'n ymadael â’r Deyrnas Unedig. Mae'r ystadegau diweddaraf ar fudo, a gyhoeddwyd ym mis Awst, yn dangos bod mudiad net wedi gostwng ar gyfradd o 81,000 o bobl o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a bod dwy ran o dair o hynnny yn sgil gostyngiad ym mudo net yr UE. Cafodd hyn ei achosi gan gynnydd yn nifer y bobl sy'n gadael y Deyrnas Unedig, yn arbennig felly o wledydd a ymunodd â'r UE yn 2004. Nawr, gallasai Llywodraeth y DU fod wedi rhoi gwarant unochrog o hawliau i ddinasyddion tebyg o’r UE sydd yn y DU. Er mawr siom, ni wnaeth hynny. Nid oes rhyfedd fod dinasyddion yr UE yn gadael y Deyrnas Unedig pan nad yw Llywodraeth y DU wedi cymryd y camau angenrheidiol i greu’r ymdeimlad eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw yma.

Yng Nghymru, rydym yn dathlu'r cyfraniad y mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i economi a chymdeithas Cymru, a'r ffaith bod llawer o ddinasyddion yr UE wedi dewis adeiladu bywyd iddyn nhw eu hunain yma yng Nghymru. A, Llywydd, oherwydd bod y mewnfudo hwnnw yn effeithio'n uniongyrchol ar lawer o'n cyfrifoldebau datganoledig, staffio ein gwasanaeth iechyd a'n prifysgolion a llwyddiant ein heconomi, dyna’r rheswm dros gyhoeddi ein papur. Mae'r dadansoddiad a'r dystiolaeth yn ein dogfen yn dangos yn glir bwysigrwydd dinasyddion yr UE i weithlu Cymru. Yma yng Nghymru, mae 7 y cant o feddygon y GIG, 5 y cant o weithwyr y diwydiant twristiaeth, 27 y cant o weithwyr mewn gweithgynhyrchu bwyd a diod a 7 y cant o'n staff prifysgol i gyd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mai ein blaenoriaeth ni yw system fewnfudo yn y DU sy'n cefnogi ein huchelgais o gyfranogiad llawn a dilyffethair yn y farchnad sengl—marchnad o 500 miliwn o bobl, yn rhydd o rwystrau tariff a rhwystrau nad ydynt yn rhai tariff, sy'n hanfodol bwysig i fusnesau a swyddi ledled Cymru. Ni fydd yr uchelgais hwnnw’n bosibl oni bai i’n system fudo fod yn ddigon hyblyg yn y dyfodol i ganiatáu i bobl symud, at ddibenion cyflogaeth, rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Hwn, yn anad dim, yw’r rheswm y credwn y dylai ein perthynas arbennig ag Ewrop yn y dyfodol gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol o ymdrin â mewnfudo o ran trigolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Swistir, gan gadw’r ardal deithio gyffredin â Gweriniaeth Iwerddon a gweddill ynysoedd Prydain. Ac rydym yn croesawu’r ymrwymiadau o du Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd y dylid cadw'r man teithio gyffredin.

Llywydd, gadewch i mi fod yn gwbl eglur : nid ydym yn credu bod system sydd wedi ei seilio ar dargedau mudo net mympwyol o fudd i Gymru, nac o fudd i weddill y DU ychwaith. Mae system o'r fath yn arwain at ffolineb cyfrif myfyrwyr yn y targed mudo net, yn seiliedig ar yr hyn y gwyddom bellach sydd yn amcangyfrif wedi ei orbwysleisio’n fawr iawn o nifer y myfyrwyr sy'n aros y tu hwnt i gyfnod eu fisâu. Rydym wedi dweud yn gyson nad ydym yn cytuno â'r polisi hwn, ac mae ein dogfen tegwch o ran symudiad pobl yn nodi'r dystiolaeth a'r dadansoddiad sy'n ein harwain at wrthwynebu’r dull o gyfyngu ar niferoedd a sectorau o ran mewnfudo o'r UE a gweddill yr AEE. Ond os bydd Llywodraeth y DU yn dewis llwybr tebyg i hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn pwyso, fel y nodwyd gennym yn ein dogfen, am gwota mudo llawn a theg yng Nghymru er mwyn i ni allu pennu ein blaenoriaethau o ran mudo i Gymru. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod y sectorau yng Nghymru sy'n ddibynnol ar weithwyr mudol yn wahanol i'r rhai yng ngweddill y DU. Mae yna berygl mawr na fyddai ein hanghenion mudo ni yn cael sylw pan fyddan nhw, er enghraifft, yn cael eu gosod yn erbyn y galw yn ne-ddwyrain Lloegr.

Yn awr, Llywydd, wrth gwrs, rydym yn sylweddoli bod llawer o bobl yng Nghymru adeg y refferendwm yn pryderu am rai agweddau ar fewnfudo a’r hyn y gallai hynny ei olygu i'w cymunedau nhw, o ran rhagolygon eu cyflogaeth ac o ran cyflogau ac amodau gwaith. Credwn y bydd mwy o gysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth yn helpu i liniaru'r pryderon hynny a chreu hinsawdd lle gall y ffeithiau gael gwrandawiad, oherwydd, Llywydd, mae’r ffeithiau hynny a'r dystiolaeth yr ydym wedi ei nodi yn amlwg yn dangos mai cadarnhaol yw effaith gyffredinol mudo yma yn Nghymru. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, er enghraifft, yn dweud bod mudo yn creu budd net i gyllid cyhoeddus. Mae data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hunan yn dangos bod 4 y cant o fewnfudwyr o’r UE o oedran gwaith yng Nghymru yn hawlio budd-daliadau oedran gwaith, o'i gymharu â 17 y cant o’r rhai sydd wedi eu geni yn y DU.

Llywydd, mae hi hefyd yn ffaith, ar ôl wyth mlynedd o lymder gyda pholisïau diffygiol ac ofer, fod gormod o lawer o ddinasyddion Cymru wedi colli camau diogelwch cyfunol y wladwriaeth yn sgil toriadau i gymorth cyfreithiol, ymosodiadau ar undebau llafur a gorfodaeth lem y system fudd-daliadau sy'n fythol grebachu. Pa ryfedd fod y rhai y mae eu hamgylchiadau beunyddiol mor enbydus yn cynnwys camfanteisio yn y gweithle at eu hofnau ynglŷn â’r dyfodol? Mae ein papur ni yn mynd i'r afael â'r mater hwn ar ei ben, gan hefyd herio'r syniad peryglus mai mewnfudo sy’n gyfrifol amdano mewn rhyw ffordd. Mae camfanteisio yn cael ei achosi gan arferion cyflogaeth diegwyddor, nid gan fewnfudo, ond mae gweithwyr mudol yn arbennig o agored i gyfryngau camfanteisio—llety ynghlwm â gwaith, cludiant ynghlwm â gwaith, hunan-gyflogaeth ffals ac yn y blaen—sy'n arwain wedyn at y risg o fanteisio ar eraill. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd gennym yn dangos nad yw Llywodraeth y DU, ers 2010, wedi gwneud digon i orfodi'r deddfau sydd wedi eu bwriadu i warchod gweithwyr rhag dioddef camfanteisio. Mae’r cyfrifoldeb arnyn nhw i sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o'u hawliau, a bod ganddyn nhw gefnogaeth yr undebau llafur, fel y gall y gweithwyr hynny adnabod camfanteisio a chymryd camau pan fydd yn digwydd iddyn nhw, heb ofni’r canlyniadau.

Ac mae rhagor y gallwn ninnau yn Llywodraeth Cymru ei wneud i adeiladu ymhellach ar ein polisïau caffael moesegol, drwy wneud Llywodraeth Cymru ei hunan a GIG Cymru yn gyflogwyr cyflog byw a phasio Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017. Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd, gan weithio gyda phartneriaid yr undebau llafur ac eraill, i nodi a mynd i'r afael â chamfanteisio ar weithwyr a chreu mwy o gydymffurfiaeth ymysg cyflogwyr yng Nghymru.

Felly, Llywydd, rydym yn cynnig system deg a realistig ar gyfer mudo rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig. Nid yn unig y bydd hynny’n gyfiawn i Gymru, ond, yn ein barn ni, yn gyfiawn i'r DU. Ac yn dyngedfennol, mae hyn yn sail adeiladol ar gyfer trafod telerau'r DU gyda'r UE-27. Rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried ein cynigion yn ddifrifol, ac edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau'r Cynulliad y prynhawn yma.