Part of the debate – in the Senedd at 2:35 pm on 3 October 2017.
Thank you very much, Llywydd. Today, I lay the Welsh Government’s draft budget before the National Assembly. It’s a budget crafted in a period of austerity that has by now lasted longer than seven years, and under the shadow of further cuts to come. Today, for the first time, I published alongside the budget a report from the chief economist for Wales about future public finances and our economic prospects. It provides some stark messages: if the United Kingdom Government continues on its present path, then we will face a further extension in a period of austerity already unprecedented in length and depth.
Llywydd, dyma'r cefndir llwm i baratoi cyllideb Cymru heddiw. Wrth i'r anawsterau ddyfnhau, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth a allwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ateb yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu heddiw, gan gymryd camau nawr i wella'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Yn unol â'r weithdrefn newydd y cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn â hi ar gyfer cyllideb eleni, mae'r wybodaeth sydd gerbron Aelodau'r Cynulliad heddiw’n nodi prif flociau adeiladu'r gyllideb: o ble mae'r arian yn dod a sut y caiff ei ddyrannu i wahanol adrannau'r llywodraeth. Yn hwyrach y mis hwn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi mwy o fanylder na'r hyn a ddarparwyd yn flaenorol, gan esbonio sut y mae Gweinidogion portffolio unigol yn bwriadu defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Llywydd, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar y galwadau gan y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol ac eraill sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru ynglŷn â phwysigrwydd gallu cynllunio’n bellach na 12 mis i’r dyfodol. Er gwaethaf yr ansicrwydd gwirioneddol yr ydym yn ei wynebu, ac sydd wedi dylanwadu ar y gyllideb hon, rwyf wedi gallu amlinellu cynlluniau refeniw ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a chynlluniau cyfalaf ar gyfer tair.
Wrth osod blociau adeiladu ein cyllideb, Llywydd, yn gyntaf rwy'n troi at fater pwysig cronfeydd wrth gefn. Fel yr wyf wedi’i drafod yn flaenorol gyda'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi cymryd ymagwedd arbennig o lym at gronfeydd wrth gefn yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Cynulliad hwn. Er bod dyraniadau yn ystod y flwyddyn wedi'u gwneud o gronfeydd wrth gefn at ddibenion hanfodol, fy mwriad oedd defnyddio cymaint â phosibl o gronfa wrth gefn newydd Cymru, a drafodwyd yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Mae'r cytundeb hwnnw'n golygu y gallwn fynd ag uchafswm o £350 miliwn ymlaen i'r gronfa wrth gefn honno o fis Ebrill nesaf ymlaen, a gwneud hynny heb rwystr gan y cyfyngiadau yr ydym wedi eu hwynebu o orfod cadw at fecanwaith cyfnewid cyllidebau Trysorlys y DU. Diolch i gymorth fy holl gydweithwyr yn y Cabinet, rwyf wedi llwyddo i gynllunio'r gyllideb hon ar y sail bod cronfa wrth gefn Cymru ar ei huchafswm, neu’n agos iawn at hynny, ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Yna, gallaf ddefnyddio manteision y rheolaeth ddarbodus hon i helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rhag y gwaethaf o'r toriadau yn y blynyddoedd anoddach sydd o'n blaenau.
Yn benodol, Llywydd, rwy'n bwriadu cymryd dau gam. Rwyf wedi penderfynu lleihau lefel yr arian wrth gefn yn ystod y flwyddyn, y byddai'n rhaid imi ei gadw fel arall. O ganlyniad, rhyddhawyd £40 miliwn mewn refeniw ym mhob blwyddyn i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ar yr un pryd, bydd lefel cronfa wrth gefn Cymru yn caniatáu imi ryddhau £75 miliwn arall yn 2019-20, mewn ffordd a reolir, i ategu ein cyllid refeniw.
Heb y penderfyniadau hyn, Llywydd, byddai gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu gostyngiadau pellach o £115 miliwn yn 2019-20. Mae hyn bron yn union y swm y mae'r Canghellor yn bwriadu ei dorri o’n cyllidebau yn y flwyddyn honno, o ganlyniad i'r gwerth £3.5 biliwn o doriadau heb eu dyrannu sy'n dal i hongian dros ein gwasanaethau. Rwy’n ailadrodd, unwaith eto, fy ngalwad arno y prynhawn yma i beidio â bwrw ymlaen â'r toriadau annheg a gwrthgynhyrchiol hynny. Ni fydd trethdalwyr Cymru yn cyfrannu dim llai yn y flwyddyn honno nag y maent yn ei wneud nawr, ond byddant yn cael eu twyllo o ganlyniad i'r camau y mae'r Canghellor yn dal i fwriadu eu cymryd.
Llywydd, rwy'n troi nawr at wariant cyfalaf. Rwy’n ailadrodd y neges yr wyf i a Gweinidogion cyllid o'r Alban ac o Ogledd Iwerddon wedi’i rhoi i dîm y Trysorlys yn Llundain: tra bod cyfraddau llog yn parhau i fod yn hanesyddol o isel, dyma'r amser i fenthyca i fuddsoddi yn ein dyfodol ar y cyd ac i greu'r amodau lle y gellir sicrhau ffyniant.
Yn ei ddatganiad hydref y llynedd, aeth y Canghellor ryw ffordd i atgyweirio'r difrod a wnaeth ei ragflaenydd. Rwy’n ei annog i wneud mwy eleni. O ganlyniad i'r cyfalaf ychwanegol a'r ffactor anghenion newydd yn fformiwla Barnett, bydd ein cyllideb yn 2019-20 at ddibenion buddsoddi hanfodol nawr 20 y cant yn is nag yr oedd yn 2009-10, yn hytrach na 27 y cant, ond, mae gostyngiad o 20 y cant ar adeg o angen brys yn doriad mawr iawn wir.
Felly, rydym wedi parhau i adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol y gallwn lenwi'r bwlch cyfalaf hwnnw. Yr egwyddor sy'n sail i hyn oll yw y byddwn bob amser yn defnyddio'r ffurfiau cyfalaf lleiaf costus i gyd cyn symud ymlaen at ffynonellau eraill. Yn unol â'r egwyddor hon ac yn y gyllideb hon, byddwn yn defnyddio gwerth £4.8 biliwn o gyfalaf confensiynol, gan gynnwys cyllid grantiau a thrafodion ariannol a ddarperir drwy'r grant bloc. Yna byddwn yn benthyca £375 miliwn mewn cyfalaf—£125 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf—y tro cyntaf inni ddefnyddio'r pwerau benthyca newydd sydd ar gael yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Hyd yn oed ar ôl gwneud hynny, byddwn yn mynd ymhellach ac yn lliniaru'r pwysau cyllidebol ar gyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau tai i'w galluogi i wneud gwerth £400 miliwn o fenthyca ar gyfer buddsoddiad cyfalaf hanfodol.
A, Llywydd, pan fyddwn wedi cyflawni hynny i gyd, awn ymhellach eto. Byddwn yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn drwy'r cynlluniau model buddsoddi ar y cyd, sydd mor bwysig yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein gwasanaeth addysg ac mewn trafnidiaeth. Y tu hwnt i hynny hefyd, byddwn yn ceisio tynnu i lawr cymaint o'r £208 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE sydd ar gael inni ar gyfer prosiectau cyfalaf, a byddwn yn bwrw ymlaen i geisio cymeradwyaeth i brosiectau allweddol pellach yn ystod y cyfnod nesaf, gan gynnwys metro de Cymru.
Yr hyn sy’n ganolog i hyn oll yw sut y mae’r penderfyniadau cyllido cyfalaf yr ydym yn eu gwneud yn cael effaith gronnol ar refeniw. Mae penderfyniadau hanesyddol, gan gynnwys PFI, a wnaethpwyd gan fwyaf cyn datganoli ei hun, yn golygu bod angen ychydig dros £100 miliwn mewn refeniw ar gyfartaledd ym mhob blwyddyn o'r gyllideb. Mae'r penderfyniadau a wnaethpwyd yn fwy diweddar i alluogi buddsoddiad arloesol mewn seilwaith cyhoeddus yn ychwanegu £30 miliwn arall at y swm hwnnw.
Mae hynny i gyd, Llywydd, yn dod â mi at ein hadnoddau refeniw. Ers datganoli pwerau treth, mae'r trefniadau ariannu ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi newid. Bellach mae gennym y pŵer i godi refeniw yn uniongyrchol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus drwy drethi datganoledig. Serch hynny, bydd mwyafrif helaeth y cyllid ar gyfer Cymru yn parhau i fod drwy'r grant bloc o'r DU, sy’n dal i gyfrif am bron i 80 y cant o'r refeniw sydd ar gael yn 2019-20.
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn gweithredu am y tro cyntaf o dan y fframwaith cyllidol y cytunodd Llywodraethu Cymru a'r DU arno fis Rhagfyr diwethaf. Mae'r trefniadau hyn yn golygu y bydd Cymru'n cael £47 miliwn ychwanegol dros gyfnod y gyllideb hon, ac mae’r holl arian hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
Llywydd, mae hon yn foment hanesyddol inni yng Nghymru. Hwn fydd y tro cyntaf i ni, fel Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, fod â’r pwerau i osod cyfraddau ein trethi ein hunain. Gyda'r pwerau newydd hynny, wrth gwrs, daw mwy o gyfrifoldebau, ac wrth inni ddechrau’r cyfnod newydd hwn o ddatganoli, byddwn yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr a dinasyddion Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod rhaid inni gadw'r trethi fel y maent heddiw; mae gennym gyfle nawr i ddefnyddio'r offer newydd hyn i wneud newidiadau i helpu i symud Cymru ymlaen.
Llywydd, yn y gyllideb hon, rwy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ddwy dreth gyntaf i'w datganoli i Gymru. Rwy’n mynd i ddechrau â’r dreth gwarediadau tirlenwi. Gallaf gyhoeddi heddiw y bydd y cyfraddau safonol ac is yn parhau i fod yn gyson â threth y DU am y ddwy flynedd nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym mor glir bod ei angen arnynt. Rwy'n bwriadu gwneud y gyfradd ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig yn 150 y cant o'r gyfradd safonol. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i osod cyfradd uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig, gan greu rhwystr ariannol ychwanegol i bobl sy'n gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, a bydd y penderfyniad hwn yn ategu'r rheoliadau a osodwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a fydd yn galluogi rhoi rhybuddion cosb benodedig am droseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fechan. Rwyf hefyd yn cadarnhau fy ymrwymiad y prynhawn yma i ddyrannu £1.5 miliwn y flwyddyn i gynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru am bob un o'r pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cadw ein hymrwymiad i gymunedau y mae gwarediadau tirlenwi’n effeithio arnynt, ac yn darparu ffrwd ariannu sefydlog i'r cymunedau hynny am y pedair blynedd nesaf, er ein bod yn disgwyl i'r refeniw a ddaw o'r dreth hon leihau’n raddol dros y cyfnod hwnnw.
Llywydd, rwy’n troi nawr at dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi penderfynu cyflwyno trothwy cychwyn newydd, uwch i brynwyr tai yma yng Nghymru. O 1 Ebrill 2018 ymlaen, bydd trothwy cychwyn treth trafodiadau tir yng Nghymru yn symud o £125,000 i £150,000—y gyfradd gychwynnol uchaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn golygu na fydd y prynwr am y tro cyntaf cyfartalog yng Nghymru yn talu dim treth o gwbl wrth brynu cartref. Yn wir, bydd y prynwr tŷ cyfartalog yng Nghymru yn talu bron i £500 yn llai o dreth nag y byddent o dan drefn bresennol treth dir y dreth stamp. Yn wir, nawr bydd naw o bob 10 prynwr tŷ yn talu llai neu'r un faint o dreth yng Nghymru o dan y dreth trafodiadau tir. Bydd y penderfyniad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd y rhai sy'n prynu'r eiddo drutaf yng Nghymru yn talu mwy, ond mae hynny'n rhan annatod o unrhyw ymagwedd flaengar tuag at drethiant.
I droi yn awr at fusnesau, Llywydd, bydd penderfyniadau a wnaf heddiw’n golygu mai yng Nghymru fydd y gyfradd gychwynnol isaf o dreth trafodiadau tir i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau naill ai'n talu dim treth neu lai o dreth nag o dan dreth tir y dreth stamp wrth brynu unrhyw eiddo hyd at £1.1 miliwn. Bydd hyn o fudd i fusnesau bach a chanolig ledled ein gwlad—llif bywyd economi Cymru. Fel gydag eiddo preswyl, rwyf wedi ailgydbwyso trethiant ar adeiladau busnes i wella blaengaredd.
Llywydd, yn ogystal â gosod cyfraddau’r trethi newydd, rydym wedi cynhyrchu rhagolygon refeniw am y tro cyntaf. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Bangor am wneud gwaith craffu a sicrwydd annibynnol ar y rhagolygon hynny. Rhagwelir y bydd treth gwarediadau tirlenwi’n cyfrannu £28 miliwn at gyllideb Cymru yn 2018-19, gan ostwng i £26 miliwn yn 2019-20. Rhagwelir y bydd treth trafodiadau tir yn codi £266 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan godi i £291 miliwn yn 2019-20.
Ym mis Gorffennaf, Llywydd, gwnaethom ddechrau dadl genedlaethol yn gofyn i bobl gyflwyno syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru. Cafwyd nifer sylweddol o ymatebion, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a helpu i lunio trethi Cymru yn y dyfodol. Heddiw, gallaf gyhoeddi'r pedwar syniad treth newydd y byddwn yn gwneud gwaith pellach arnynt cyn inni gynnig un syniad i Lywodraeth y DU yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Mae'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol yn rhoi pwysau sylweddol ar gyllideb Cymru. Felly, rwyf am archwilio ysgogiadau ariannol posibl, gan gynnwys trethi, i gefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan adeiladu ar waith yr Athro Gerry Holtham. Byddwn yn archwilio effeithlonrwydd treth bosibl i roi terfyn ar fancio tir a threth gwaredu plastig yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i archwilio sut y gellid defnyddio treth ar lety twristiaeth i gefnogi'r diwydiant lleol ac annog swyddi a thwf yng Nghymru.
Llywydd, byddaf nawr yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau cyfalaf, refeniw a chronfeydd wrth gefn ar draws y Llywodraeth. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ystyried ein cytundeb cyllideb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru, lle mae nifer o'r mesurau y cytunwyd arnynt yng nghytundeb y llynedd yn cael eu gwneud yn rheolaidd, ac sy'n cynnwys buddsoddiadau pwysig eraill mewn meysydd y cytunwyd arnynt ar draws y gyllideb. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Adam Price a'i dîm am yr holl amser y treulion nhw gyda ni i gytuno ar hyn dros gyfnod yr haf.
O ganlyniad i hynny oll, bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant iechyd, lles a chwaraeon nawr yn £7.5 biliwn yn 2018, gan godi i £7.8 biliwn yn 2019-20. Bydd y prif grŵp gwariant hwnnw’n cynnwys £450 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd i'r GIG yng Nghymru. Bydd yn cynnwys £16 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi'r gronfa driniaeth newydd, a gallaf ddarparu £90 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglen gyfalaf GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant llywodraeth leol, gan gynnwys trethi annomestig, nawr yn £4.5 biliwn yn 2018-19, a bydd yn parhau i fod yn £4.5 biliwn yn 2019-20. Bydd hynny'n cynnwys diogelu cyllideb rheng flaen ysgolion a gofal cymdeithasol, a bydd yn darparu £12 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer gwasanaethau digartrefedd drwy'r grant cynnal refeniw. Mae hyn i gyd yn golygu y bydd llywodraeth leol yng Nghymru unwaith eto yn mwynhau setliad llawer mwy ffafriol na'u cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr.
Llywydd, mae cyfanswm y prif grŵp gwariant cymunedau a phlant nawr yn £874 miliwn yn 2018-19, ac yn £777 miliwn yn 2019-20, i gynnwys buddsoddiad ychwanegol gwerth £70 miliwn dros ddwy flynedd i ehangu ein cynnig gofal plant blaenllaw, i sicrhau na fydd dim toriadau i'r grant Cefnogi Pobl, ac i ryddhau £340 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf dros y tair blynedd i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Bydd yn buddsoddi £14.9 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf dros y cyfnod hwnnw i gefnogi adfywio ein cyfleusterau cymunedol, a gallaf ddyrannu £1 miliwn ychwanegol yn y ddwy flynedd ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, yn uniongyrchol i helpu rhai o deuluoedd tlotaf ein gwlad.
Bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant economi a seilwaith nawr yn £1.2 biliwn yn 2018-19 ac yn codi i £1.3 biliwn yn y flwyddyn ganlynol. Bydd hynny'n darparu £220 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi ein penderfyniad i greu 100,000 o brentisiaethau pob oed dros gyfnod y Cynulliad hwn. Bydd yn cynnwys £50 miliwn dros dair blynedd i ddatblygu gorsaf reilffordd a chyfleuster parcio a theithio newydd yn Llanwern, ac rwy'n bwriadu clustnodi arian yn y cronfeydd wrth gefn i brynu cerbydau newydd ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a’r gororau, yn amodol ar ganlyniad y broses gaffael barhaus.
Ym maes addysg, bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant nawr yn £1.6 biliwn yn 2018-19 ac yn y flwyddyn ganlynol. Bydd hynny'n ein galluogi i fuddsoddi £50.5 miliwn i godi safonau ysgolion dros y ddwy flynedd, i gynnal ein lefel buddsoddiad yn y grant amddifadedd disgyblion ac i fuddsoddi swm newydd o £40 miliwn dros ddwy flynedd i gyflymu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan ddod â band A y rhaglen honno i ben hyd yn oed yn gyflymach nag y byddem fel arall wedi gallu ei gyflawni.
Bellach mae cyfanswm prif grŵp gwariant yr amgylchedd a materion gwledig yn £344 miliwn yn 2018-19 a £322 miliwn yn 2019-20, gan gynnwys darparu gwerth £150 miliwn o fuddsoddiad drwy ein rhaglen arloesol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd a £7.5 miliwn o gyfalaf ychwanegol yn 2018-19 ar gyfer mesurau atal llifogydd wedi'u targedu. Rwy'n bwriadu darparu swm pellach o £5.4 miliwn dros y tair blynedd i gefnogi'r rhaglen datblygu gwledig i sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o gyfleoedd arian cyfatebol i gefnogi ein cymunedau gwledig wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bellach mae cyfanswm y prif grŵp gwariant gwasanaethau canolog a gweinyddu yn £297 miliwn yn 2018-19 a bydd yn gostwng i £286 miliwn yn 2019-20.
I gloi, Llywydd, hoffwn gofnodi fy ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy ddweud, os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r gwerth £3.5 biliwn o doriadau heb eu dyrannu, y byddaf yn anelu at ddefnyddio cymaint â phosibl o'r adnoddau a fyddai ar gael wedyn i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn rhwng y gyllideb ddrafft a phan fydd rhaid imi osod y gyllideb derfynol ddiwedd mis Rhagfyr eleni. O ganlyniad, mae'r gyllideb sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw’n nodi cyfres feiddgar a chytbwys o gynigion sy'n cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth Cymru hon a blaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio ein pwerau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd, i greu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ac i gychwyn ar ein cyfrifoldebau treth newydd mewn ffordd sy'n rhoi'r help mwyaf i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Rwy’n cymeradwyo’r gyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol.