Part of 1. 1. Questions to the First Minister – in the Senedd at 2:15 pm on 18 July 2017.
Mi gofiaf i heddiw fel y diwrnod lle cyrhaeddom ni gwestiwn 13, ac mae fy niolch i Neil Hamilton ac i Mark Reckless am fethu ag ymestyn am eu ffeiliau yn ddigon cyflym. Rwy’n ddiolchgar o gael y cyfle, ac mae hwn yn fater, digwydd bod, rydw i’n teimlo’n reit gryf yn ei gylch o. Mae cofebau’r rhyfel mawr—mi wyddoch chi amdanyn nhw—ar sgwâr y pentref yn bethau sy’n cael eu gwarchod, ac mae Cadw yn gwneud gwaith arbennig yn eu gwarchod nhw.
Ond mae yna gofebau rhyfel eraill o gwmpas Cymru—mewn capeli, er enghraifft, neu hyd yn oed mewn hen ffatrïoedd—sy’n cofio pobl sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae angen gwarchod y rheini hefyd, ac a gaf i wneud apêl ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith yn gallu cael ei wneud—mi allaf i roi’r Llywodraeth mewn cyswllt â’r bobl sy’n gwneud ymchwil yn y maes hwn—er mwyn ein helpu ni i warchod ein treftadaeth ni ar gyfer y dyfodol a chofio’r rheini a gollodd eu bywydau?