Part of 1. 1. Questions to the First Minister – in the Senedd at 2:16 pm on 18 July 2017.
A gaf i ddweud fy mod i wedi cyrraedd cwestiwn 15 o’r blaen, ond dim ers amser, achos roeddwn i’n cael fy nghyhuddo o roi atebion rhy fyr. Achos hynny, penderfynais i fod yn rhaid i mi, felly, ehangu’r atebion yn y pen draw. Rwy’n gwybod bod cofeb Llanrhuddlad ar Ynys Môn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ynglŷn â chael ei restru fel cofeb sydd yn arbennig. Mae honno’n enghraifft anarferol, rwy’n deall, o gofeb a gafodd ei ail-ddylunio ar ôl yr ail ryfel byd ac sydd â ffigwr milwr o’r ail ryfel byd arno.
Un o’r pethau oedd yn rhaid i ni ei wneud pan ddechreuom ni’r cynllun hwn oedd sicrhau ein bod ni’n gwybod faint o gofebau oedd yna, achos nid oedd gan neb rhestr ac nid oedd neb yn gwybod ble yn gwmws yr oedden nhw. Ond beth sydd wedi digwydd lan i nawr yw bod mwy a mwy o bobl wedi ystyried bod gyda nhw gofeb ac wedi, wrth gwrs, ystyried bod yn rhaid cael bach o arian er mwyn sicrhau bod y gofeb honno yn cael ei chadw yn y ffordd briodol. So, felly, os oes yna rai ar Ynys Môn, mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwybod ble maen nhw, ac, wrth gwrs, mae’n hollbwysig eu bod nhw’n gwybod ym mha ffordd y gallan nhw gael unrhyw fath o help.